Croeso

Mae BlueCastle Capital yn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Caerdydd ar ran REAP 3 Limited, a byddem yn croesawu eich adborth ar y cynigion a gyflwynir yma.

Mae'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r cais i'w gweld ar y wefan hon, ynghyd â chrynodeb o'r cynigion a ffurflen adborth.

Y Safle

Mae'r safle wedi'i leoli yng nghanol ardal adfywio ehangach 'Sgwâr Canolog' yng Nghanol Dinas Caerdydd.

Hanes cynllunio

Mae gan y safle ganiatâd cynllunio llawn eisoes ar gyfer datblygiad defnydd-cymysg 35 llawr, sy'n darparu defnyddiau masnachol ar y llawr gwaelod, a chartrefi preswyl uwchben, a roddwyd ar 2 Mai 2024 (cyf. 21/02984/MJR).

Mae REAP 3 Limited (sy'n is-gwmni i BlueCastle Capital) bellach yn paratoi cais cynllunio newydd ar gyfer y safle. Mae'r cynigion newydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant ardal ehangach y Sgwâr Canolog, ac yn cynnig datblygiad defnydd-cymysg o ansawdd uchel a fydd yn creu tirnod newydd yn y lleoliad pwysig hwn yng nghanol y ddinas.

Mae'r cynigion yn cynnwys 528 o Gartrefi Adeiladu i Rentu newydd, ystod eang o gyfleusterau preswyl, hyb beiciau ac ardaloedd defnydd hyblyg nad ydynt yn rhai preswyl.

Golygfa o Stryd Wood tuag at Stadiwm Principality

.