Cwestiynau Cyffredin

Cynigir dau adeilad gan gynnwys tŵr preswyl 50 llawr a phafiliwn 2 lawr a fydd yn cynnwys bwyty.

Bydd cymysgedd o gartrefi 1 ystafell wely a 2 ystafell wely ar gael.

Rydym yn dal i gynnal trafodaethau gyda'r Cyngor ynglŷn â faint o dai fforddiadwy fydd yn y cynllun.

Bydd y datblygiad yn ddi-geir. Mae ein cynlluniau'n cynnwys 528 o leoedd parcio beiciau i drigolion yn y lefel mesanîn, gan gynnwys raciau dwy haen a loceri i feiciau plygadwy i annog teithio llesol.

Ydy. Mae gennym hanes gwych o adeiladu eiddo modern, cynaliadwy o ran yr amgylchedd ac rydym yn anelu at fod yn garbon niwtral. Mae mesurau ar gyfer hyn yn cynnwys targedu safonau BREEAM o naill ai 'rhagorol' neu 'da iawn' fel yr isafswm ar draws y pafiliwn a'r prif adeilad. Byddwn hefyd yn targedu sgôr EPC o B o leiaf ar gyfer pob fflat, gan sicrhau eu bod yn effeithlon i fyw ynddynt ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.

Yn ogystal â darparu cartrefi o ansawdd uchel sydd mawr eu hangen i fynd i'r afael ag angen tai'r Cyngor, mae'r datblygiad arfaethedig yn dod ag ystod eang o fanteision eraill. Mae hyn yn cynnwys llenwi safle canol dinas sydd wedi bod yn wag ers amser maith ac sydd o bwys strategol, gofod masnachol hyblyg newydd a fydd yn actifadu'r Sgwâr Canolog, hyb beiciau a chaffi sy'n hygyrch i'r cyhoedd, adeilad pafiliwn newydd a all gynnwys bwyty o'r radd flaenaf, tirlunio helaeth yn y mannau cyhoeddus yn ac o amgylch yr adeiladau, adeiladau hynod gynaliadwy ac effeithlon o ran ynni ynghyd â manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i'r Ddinas.

Mae'r cynigion yn ceisio actifadu'r Sgwâr Canolog a chefnogi hygyrchedd cyhoeddus. Mae'r cynllun yn cynnwys gofod masnachol hyblyg newydd, gan gynnwys hyb beiciau a chaffi sy'n hygyrch i'r cyhoedd, adeilad pafiliwn newydd a fydd yn cynnwys bwyty newydd a'r tirlunio cyhoeddus helaeth newydd yn yr adeiladau a'r cyffiniau.

Nac oes, Ymgynghoriad Cyn-Ymgeisio yw hwn. Rydym wrthi'n ceisio adborth gan y gymuned a rhanddeiliaid allweddol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Bydd eich mewnbwn ar y cam hwn yn helpu i lunio'r cynnig terfynol.

Gallwch roi adborth trwy lenwi'r ffurflen hon..